top of page

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD – EISTEDDFOD Y CYMOEDD

 

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio ym mha fodd y bydd Eisteddfod y Cymoedd yn ymdrin (prosesu) â’ch gwybodaeth bersonol. Mae gofynion yr hysbysiad preifatrwydd i’w gweld yn y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a’r Ddeddf Diogelu Data 2018.

 

Casglu a defnyddio eich gwybodaeth [Erthygl 13(1)(c), (d); Erth. 13(2)(e)]

 

Pan fyddwch yn ymaelodi â phwyllgor Eisteddfod y Cymoedd, neu yn cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod y Cymoedd, byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol sydd ei angen i brosesu eich cais i fod yn aelod:

  • eich enw;

  • eich cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost;

  • eich llofnod;

  • eich ysgol

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth hon, ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais i ymaelodu. 

 

Byddwn hefyd yn defnyddio’ch gwybodaeth wrth weinyddu eich aelodaeth barhaus o Eisteddfod y Cymoedd, gan gynnwys rhoi gwybodaeth am weithgareddau Eisteddfod y Cymoedd yn ystod y flwyddyn, ac yn y ffyrdd canlynol:

  • gweinyddu’r rhan o wefan Eisteddfod y Cymoedd sy’n ymwneud ag aelodau;

  • rhestrau mynychu digwyddiadau a rhannu e-byst ynglŷn â nhw;

  • unrhyw gyhoeddiadau gan Eisteddfod y Cymoedd yr ydych yn cyfrannu atynt, neu eich presenoldeb yn un o ddigwyddiadau Eisteddfod y Cymoedd gan gynnwys rhai a drefnir gan drydydd parti e.e. enwau neu ffotograffau mewn rhaglen a gyhoeddir, neu ar gyfer gofynion diogelwch lleoliad y perfformiad  

  • unrhyw gamau a wneir ar eich rhan, ar eich cais

  • Weithiau bydd angen gofyn am ragor o wybodaeth gennych (e.e. gofynion dietegol/mynediad) ar gyfer digwyddiadau a drefnir. 

 

Byddwn hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth nid yn unig i roi gwybod i chi am ddigwyddiadau Eisteddfod y Cymoedd, ond hefyd ddigwyddiadau a gydlynnir gan sefydliadau cerddorol neu ddiwylliannol eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth i drydydd parti ag eithrio am y rhesymau a amlinellir yn yr hysbysiad hwn, neu gyda’ch cytundeb chi. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi o flaen llaw os fyddwn ni’n gwneud fideos neu’n tynnu ffotograffau mewn digwyddiad, neu os fydd trefnwyr digwyddiadau yn eich recordio neu’n eich ffilmio ar gyfer dibenion darlledu.  

 

Mae’r defnydd o’ch gwybodaeth yn angenrheidiol ar gyfer y dibenion canlynol:

  • budd cyfreithiol wrth weinyddu aelodaeth Eisteddfod y Cymoedd, nad ydyw’n mynd y tu hwnt i fuddiannau na hawliau a rhyddid yr unigolyn;

  • cynnig y gwasanaethau a gynigir gan Eisteddfod y Cymoedd

 

Rhannu eich gwybodaeth [Erth. 13(1)(e)]

 

Byddwn yn rhoi eich enw a’ch cyfeiriad e-bost i aelodau eraill Eisteddfod y Cymoedd i annog rhannu gwybodaeth, neu i hwyluso cyfathrebu amdani, ac ar gyfer cynnig y gwasanaethau uchod. 

 

Pan fydd Eisteddfod y Cymoedd yn cyflawni gweithred ar eich rhan byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth fel sy’n ofynnol i gwblhau’r weithred honno. 

 

Bydd yr wybodaeth am eich aelodaeth hefyd ar gael i aelodau Pwyllgor Eisteddfod y Cymoedd ar gyfer dibenion gweinyddol, cyfreithiol, cyfrifo, cymorth TChG neu brosiectau /digwyddiadau penodol – e.e. y Trysorydd ac ar gyfer dibenion cyfrifo blynyddol. 

 

Cadw eich gwybodaeth [Erth13(2)(a)]

 

Yn achos aelodau unigol, byddwn yn cadw’r wybodaeth am eich aelodaeth o Eisteddfod y Cymoedd drwy gydol yr aelodaeth honno, ac am gyfnod o dair blynedd ar ôl i’ch aelodaeth ddod i ben, oni bai eich bod yn dweud yn wahanol.Bydd hyn yn caniatáu i ni ail-gychwyn aelodaeth sydd wedi dod i ben yn ddifwriad.  

 

Byddwn yn cadw pob cyhoeddiad a phapurau’n ymwneud â chynnig gwasanaethau Eisteddfod y Cymoedd am gyfnod amhenodol.

 

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor [Erth,13(1)(f)]

 

Bydd Eisteddfod y Cymoedd yn uwchlwytho deunydd yn cynnwys gwybodaeth bersonol (e.e. ffotograffau / fideo o berfformiadau a dolenni i recordiadau sain / CD o berfformiadau) i’n gwefan, a gynhelir yn y DU. Dewis unrhyw un sy’n edrych ar y wefan fydd penderfynu a ydyw am lawrlwytho a throsglwyddo deunydd o’r wefan ai peidio. O ran hynny, ni fydd Eisteddfod y Cymoedd yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol y tu allan i awdurdodaeth y DU. 

 

Eich hawliau [Erth. 13(2)(b)]

 

Mewn achos o brosesu angenrheidiol ar gyfer budd dilys wrth weinyddu aelodaeth Eisteddfod y Cymoedd, mae’r hawliau canlynol ar gael i chi (yn amodol ar eithriadau): 

  • hawl i weld eich data personol;

  • hawl i gywiro data personol sy’n anghywir;

  • hawl i ddileu data personol;

  • hawl i gyfyngu ar brosesu’r wybodaeth;

  • hawl i wrthwynebu prosesu data personol; 

  • hawl i beidio bod yn destun penderfyniad awtomatig

Mae’r hawliau uchod i gyd ar gael i chi lle mae’r prosesu’n angenrheidiol i gyflawni’r contract rhyngoch chi ag Eisteddfod y Cymoedd, ac eithrio’r hawliau canlynol:

  • yr hawl i wrthwynebu prosesu data personol; a’r

  • hawl i beidio bod yn destun penderfyniad awtomataidd

At bwy i gysylltu os ydych yn anfodlon [Erth.13(1)(a),(b),13(2)(d)]

 

Eisteddfod y Cymoedd yw’r rheolwr data at ddibenion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a’r Ddeddf Diogelu Data 2018, gan gynnwys prosesu gan unrhyw broseswyr data a benodir. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â phrosesu data personol gan Eisteddfod y Cymoedd, neu os ydych am ymarfer unrhyw hawliau a nodir uchod, dylech gysylltu â’r Cadeirydd ar y manylion isod:

 

Cadeirydd:                          Aled John

E-bost/ffôn:                            eisteddfodycymoedd@gmail.com / 07815142729

Os ydych yn parhau’n anfodlon, gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru):

 

Cyfeiriad post:                      2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH

Gwefan/ffôn/e-bost:           www.ico.org.uk/ 029 20678400 / wales@ico.org.uk

 

 [Tynnu cydsyniad yn ôl [Erth. 13(2)(c)] – Dd/B]

 

 [Prosesu gwybodaeth yn awtomataidd [Art 13(2)(f)] – Dd/B]

bottom of page