Eleni, fe fyddwn yn cynnig cystadleuaeth newydd yn yr adran ffotograffiaeth. Gofynion 'Selfie y Cwm' fydd i dynnu llun ar eich dyfais symudol, ond gan sicrhau fod yna leoliad eiconig i'r cwm y tu ôl ichi. Gall hyn fod yn afon, bont, castell, golygfa neu adeilad gwahanol. Yr hyn rydym yn gofyn yw eich bod yn danfon y llun at y cyfeiriad ebost isod erbyn y dyddiad cau. Wrth ddanfon eich llun i fewn, rydych yn rhoi'r canitad i Eisteddfod y Cymoedd i gyhoeddu eich llun ar y wefan ym, ac efallai mewn mannau cyhoeddus eraill.